#

 

 

 

 


Briff Ymchwil

Rhif y ddeiseb: P-05-742

Teitl y ddeiseb: Atal Forsythia rhag Cau

Testun y ddeiseb: Mae Canolfan Ieuenctid Forsythia mewn perygl o gael ei chau oherwydd ansicrwydd ynghylch ei threfniadau cyllido gan raglen Llywodraeth Cymru, Cymunedau yn Gyntaf.

Mae Canolfan Ieuenctid Forsythia yn gwasanaethu pobl ifanc yn rhad ac am ddim, ac mae ar agor:
- 4 noson yr wythnos am 51 wythnos y flwyddyn;
- Yn ystod y dydd a'r nosweithiau drwy gydol gwyliau'r ysgol;
- Yn ystod y penwythnos os oes gwaith prosiect i'w gwblhau.

Mae gan Forsythia o leiaf 50 o bobl ifanc rhwng 11-20 oed yn bresennol bob nos yn ddi-ffael, a'r rheini o ardaloedd Y Gurnos, Galon Uchaf, Pant, Dowlais a Phen-y-Darren.

Heblaw am Ganolfan Ieuenctid Forsythia, ni fyddai gan bobl ifanc le diogel i fynd iddo o fewn eu cymuned, ac ni fyddai ganddynt yr unman arall i fynd iddo oherwydd nad oes digon o ddarpariaeth i bobl ifanc.

Mae Canolfan Ieuenctid Forsythia yn rhoi'r cyfle i bobl ifanc gymryd rhan mewn prosiectau ieuenctid megis 'Commit to quit' gydag Ash Cymru, prosiectau Erasmus+ ar 'Agweddau a Gwerthoedd Gwaith Ieuenctid', a'r 'prosiect Agenda' mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd.

Mae cyfle i'r bobl ifanc hefyd ddefnyddio sefydliadau megis Drug Aid Cymru a chymryd rhan mewn prosiectau Iechyd Rhywiol, rhaglenni Rhoi'r Gorau i Ysmygu, rhaglenni i gynyddu hyder a gwella iechyd meddwl, cânt ennill sgiliau a chymwysterau, a derbyn cymorth mewnol gan weithwyr ieuenctid cymwys.

Mae'r bobl ifanc a'r gweithwyr yn pryderu'n fawr am yr ansicrwydd ynghylch trefniadau cyllido Cymunedau yn Gyntaf oherwydd heb y cyllid hwn, bydd yn rhaid i Forsythia gau.

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw newidiadau a gaiff eu gwneud i raglen Cymunedau yn Gyntaf yn gwarchod Canolfan Ieuenctid Forsythia rhag cael ei chau.

Cymunedau yn Gyntaf

Cymunedau yn Gyntaf yw prif raglen Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â thlodi. Dechreuodd yn 2001, ond ad-drefnwyd y rhaglen yn 2012 i wella perfformiad ac atebolrwydd. Mae Cymunedau yn Gyntaf yn anelu at "gau'r bylchau economaidd, addysg/sgiliau ac iechyd rhwng ein hardaloedd mwyaf difreintiedig a rhai mwy cefnog", gyda'r nod tymor hir o "gyfrannu at liniaru tlodi parhaus". Mae'n gwneud hyn trwy ddarparu cyllid i 19 o 'gyrff cyflawni arweiniol' ar gyfer 52 o ardaloedd gwahanol a elwir yn 'glystyrau', sydd wedyn yn dosbarthu arian i brosiectau unigol.

Ym mis Chwefror 2017 cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant y byddai'r Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn cael ei diddymu'n raddol. Yn ystod y cyhoeddiad hwnnw dywedodd:

"Rwy'n ymwybodol o'r effaith bosibl ar unigolion a chymunedau. Felly, byddaf yn mabwysiadu dull gofalus wrth fwrw ymlaen, gan geisio cadw rhai o'r agweddau mwyaf effeithiol ar y gwaith a wnaethpwyd gan Cymunedau yn Gyntaf. Byddaf yn sicrhau bod gan y prif gyrff cyflenwi ddigon o amser ac adnoddau i gynllunio'r pontio. Ac felly, rwyf wedi penderfynu y bydd cyllid, ar 70 y cant o'r lefelau presennol, yn cael ei ddarparu hyd at fis Mawrth 2018. Byddaf yn sefydlu cronfa etifeddiaeth gwerth £6 miliwn, i'w chyflwyno ym mis Ebrill 2018 a fydd yn galluogi awdurdodau lleol, mewn ymgynghoriad â chymunedau a byrddau gwasanaethau cyhoeddus, i gynnal rhai o'r asedau cymunedol neu’r ymyraethau mwyaf effeithiol a ddatblygwyd gan Cymunedau yn Gyntaf."

Cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet sylwadau hefyd yn benodol ar liniaru unrhyw effaith bosibl ar blant a phobl ifanc:

"Mae buddsoddi yn ein plant yn fuddsoddiad ar gyfer y tymor hir. Dyma'r dull mwyaf cynaliadwy o adeiladu dyfodol mwy llewyrchus.

Rwyf wedi fy nghalonogi gan yr ymatebion cadarnhaol iawn a gafwyd hyd yn hyn i’r gwaith o ddatblygu parthau plant, a sefydlu canolfan ACE i helpu sefydliadau, cymunedau ac unigolion ledled Cymru i fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, a all gael effaith mor ddinistriol ar gyfleoedd bywyd i blant.

Bydd y mentrau hyn, ynghyd â'n buddsoddiad parhaus yn rhaglenni llwyddiannus Dechrau’n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf, yn sicrhau bod cefnogaeth gynhwysfawr i blant wrth iddynt dyfu’n oedolion."

Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ym mis Rhagfyr 2016, cyhoeddodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad adroddiad yn dilyn ei ymchwiliad ar Waith Ieuenctid.  Cafodd bob un o'r argymhellion eu derbyn naill ai yn llawn neu mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru.  Mae ymateb llawn Llywodraeth Cymru ar gael ar wefany Cynulliad ac mae  trawsgrifiad o'r drafodaeth yn y Cyfarfod Llawn ar gael yma: Cofnod y Trafodion, 8 Chwefror 2017

Disgwylir datganiad gan Alun Davies, y Gweinidog dros Ddysgu Gydol Oes a'r Iaith Gymraeg ar "Ddyfodol Cyflenwi Gwaith Ieuenctid yng Nghymru" ddydd Mawrth 21 Mawrth 2017.

Mae’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf wedi bod yn destun craffu gan bwyllgorau’r Cynulliad ar sawl achlysur. Yn fwyaf diweddar, clywodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar 16 Chwefror 2017.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.   Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol, fodd bynnag, nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru na'u diwygio fel arall o reidrwydd i adlewyrchu newidiadau dilynol.